Brexit: ACau'n gwrthod cynnig Plaid i wrthod Erthygl 50

The Welsh and EU flags Image copyright Getty Images

Mae ACau wedi pleidleisio i wrthod cynnig gan Blaid Cymru y dylai'r Senedd wrthod tanio Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn dadl ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, roedd y blaid wedi galw ar y Cynulliad i wrthwynebu dechrau'r broses o adael yr UE os na fyddai sicrwydd am Gymru'n cael bod yn rhan o'r farchnad sengl.

Ond fe wnaeth Llafur, Y Ceidwadwyr ac UKIP wrthod y cynnig er mai rhywbeth ymgynghorol fyddai hynny, ac na fyddai'n cael effaith ar y broses.

Yn y bleidlais daeth cefnogaeth gan 10 AC, ond roedd 46 yn erbyn.

Cynigion eraill

Cafodd ymdrech y Ceidwadwyr i gefnogi'r papur gwyn ar Brexit gan Lywodraeth y DU ychydig yn fwy o gefnogaeth, ond methodd eu cynnig nhw hefyd o 17 i 38.

Fe wnaeth mwyafrif yr aelodau - 38 o blaid a 18 yn erbyn - gefnogi cynnig ar y cyd gan Blaid Cymru a Llafur, oedd yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 ond ddim yn gwrthwynebu hynny.

Roedd y cynnig yma yn mynnu mwy o ymgynghori ar y trafodaethau Brexit ac unrhyw gytundeb terfynol.

Er bod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg - y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams - bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50.

Fe ddaw'r bleidlais yn y Cynulliad wrth i'r mesur i danio Erthygl 50 gael ei drafod ymhellach yn San Steffan.

Ymateb

Wrth siarad o blaid y cynnig dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood bod ei phlaid wedi "gwrthod arwyddo siec wag i Lywodraeth y DU gael tanio Erthygl 50".

Ychwanegodd bod gweinidogion y DU "wedi methu cyflwyno cynllun manwl" a bod y papur gwyn a gyhoeddwyd ganddynt "yn ddogfen sy'n llawn gwrthddywediadau, a dydyn ni'n dal ddim yn gwybod beth mae Brexit yn ei olygu".

Yn ystod y ddal dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones: "Ni allwn ac ni ddylen ni geisio atal y trafodaethau yna rhag dechrau.

"Dyna wedi'r cyfan oedd testun y refferendwm, ac mae'n rhaid parchu'r canlyniad."

Dywedodd arweinydd UKIP yn y Senedd, Neil Hamilton fod Brexit "yn gyfle i ni, nid bygythiad".

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Cafodd penderfyniad ei wneud yma yng Nghymru, ac yng ngweddill y DU, sydd angen ei barchu.

"Rhaid i ni fel gwleidyddion weithredu'r hyn y gwnaeth y bobl ein gyrru yma i gyflawni."

Dywedodd llefarydd ar ran Ms Williams ei bod hi'n "gefnogol i bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar Brexit a fydd yn sicrhau'r cytundeb gorau posib i Gymru".

Ond ychwanegodd bod ei phlaid hi'n credu'n gryf "bod rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i sicrhau aelodaeth Prydain o'r farchnad sengl cyn tanio Erthygl 50".