Dilyn y bandiau
Mae heddiw'n ddiwrnod Gwisgo Crys T Eich Hoff Fand i'r Gwaith. Dyma'r ddegfed flwyddyn i orsaf BBC Radio 6 Music gynnal diwrnod o'r fath.
Y syniad yw eich bod chi'n ail afael a'ch ieuenctid ffol am un diwrnod o'r flwyddyn.
Felly amser i chi gael twriad bach drwy'r cypyrddau er mwyn dod o hyd i'ch hen grysau Hogia'r Wyddfa a John ac Alun, a'u gwisgo gyda balchder.
Neu ar y llaw arall, fedrwch chi fwrw llygad drwy'r casgliad yma o grysau t y sîn roc Gymraeg.
Diolch i Anghard Jones am roi caniatad i ni rannu'r lluniau.
Mae rhagor i'w gweld ar ei thudalen Facebook SRG Ddoe a Heddiw.
Ail Gyfnod
Band synthpop Cymreig oedd Ail Gyfnod. Cafodd y band ei ffurfio ar ddiwedd yr 1980au gan Gwion Huw a Dyfan Jones.
Aeth Gwion ymlaen i fod yn actor a mae wedi gwneud llawer o waith theatr a theledu gan gynnwys Rownd a Rownd, Iechyd Da ac Arachnid.
Ers 1995 mae Dyfan wedi bod yn gyfansoddwr a chyfarwyddwyr cerddoriaeth llawn amser, ac wedi cyfansoddi ar gyfer nifer fawr o gynyrchiadau teledu a ffilm.
Gofodwyr Piws
Aelodau Gofodwyr Piws oedd Robin Hughes, Alwyn Ward, Phil Morris, David Yates, Dyl Wyn, Edward Wez Robinson.
Cafodd y grŵp ei ffurfio yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy yn niwedd yr 80au pan roedd y sîn roc yn ffynnu yn yr ardal, ac yn ogystal â gigio'n rheolaidd wnaethon nhw hefyd greu sawl fideo ar gyfer rhaglen Fideo 9 yn y 90au cynnar.
Catatonia
Aelodau gwreiddiol Catatonia oedd Cerys Matthews, Mark Roberts, Paul Jones, Owen Powell, Aled Richards, Dafydd Ieuan, Clancy Pegg a Kris Jenkins.
Mark Roberts a Cerys Matthews oedd yn gyfrifol am ran fwyaf o ganeuon y band, wnaeth fwynhau llwydiant rhyngwladol gyda'r albyms International Velvet ac Equally Cursed & Blessed yn gwerthu cannoedd o filoedd o gopiau.
Hanner Pei
Roedd Hanner Pei yn fand ffync o Gaerdydd roedd yn eu anterth yn y 90au cynnar.
Ffurfiodd y band o fechgyn ysgol Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, yn eu plith Mathew Glyn, Ceri Evans, Rob Powell, Geraint Warrington, Siôn Edwards a Dafydd Palfrey.
Jess
Ffurfiodd y band Jess gan ffrindiau o Ysgol Uwchradd Aberteifi yn 1987 a daeth y band i wir amlygrwydd yn ystod diwedd yr 1980au, gan chwarae gigs ledled Cymru.
Cyheododd Jess eu halbwm gyntaf Jess (1988) ar label Fflach. Cafodd Y Gath ei chyhoeddi yn fuan wedyn (1989).
Mae llawer yn dweud mai eu halbwm nesaf, Hyfryd i Fod yn Fyw (1990) odd eu campwaith.
Aelodau Jess oedd Brychan Llŷr, Emyr Penlan, Chris Lewis ac Owain Thomas.
Tynal Tywyll
Grŵp pop Cymraeg o ardal Tregarth ger Bangor oedd Tynal Tywyll. Cafodd y band ei enwi ar ôl hen dwnel trên oedd yn cludo llechi rhwng Bethesda a Thregarth.
Yr aelodau oedd Ian Morris,, Nathan Hall, Dafydd Felix Richards. Gareth Williams, Gruff Davies a Dylan Hughes.
Super Furry Animals
Cafodd Super Furry Animals eu ffurfio o weddillion Ffa Coffi Pawb, oedd yn cynnwys Gruff Rhys a Dafydd Ieuan fel aelodau gwreiddiol.
Ei albwm Mwng, yn ôl y sôn, yw'r cryno ddisg roc mwyaf llwyddianus o ran gwerthiant erioed yn yr iaith Gymraeg.
Crumblowers
Ffurfiodd y Crumblowers yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ar adeg pryd roedd yr ysgol yn ffynhonell nifer o fandiau adnabyddus fel Edrych am Jiwlia, Hanner Pei a'r Gwefrau.
Prif aelodau'r Crumblowers oedd y brodyr Lloyd ac Owen Powell (Catatonia) gydag Owen Stickler ar y drymiau.
Gorky's Zygotic Mynci
Band seicadelig o Gaerfyrddin oedd Gorky's Zygotic Mynci gafodd ei ffurfio yn 1991.
Roedd y band yn ddylanwad sylweddol ar fandiau cyfoes fel Radio Luxembourg, Eitha Tal Ffranco, a The Coral.
Mae aelodau'r grŵp, sef Euros Childs, Richard James a John Lawrence i gyd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol, ers i'r band ddod i ben ym mis Mai 2006.