Canfod corff cerddwr o Gymru ym mynyddoedd yr Alban

Charlie Clift Image copyright Heddlu'r Ucheldir a'r Ynysoedd

Mae Heddlu'r Alban wedi cadarnhau bod corff dyn o Gymru oedd wedi mynd ar goll wedi ei ganfod.

Am 11:00 ddydd Sadwrn fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Lochaber ddod o hyd i gorff Charlie Clift ar lethrau gogleddol Meall Nan Cleireach.

Cafodd Mr Clift, 56 oed o dde Cymru, ei weld ddiwethaf yn prynu dillad awyr agored ar 30 Ionawr yng nghanol tref Fort William.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am ddarganfyddiad y corff, ac ychwanegodd yr heddlu nad oedden nhw'n credu bod unrhyw amgylchiadau amheus.