Rhwystrau'n atal pobl anabl rhag dychwelyd i'w gwaith

Menyw Image copyright Thinkstock
Image caption Mae Cyngor Ar Bopeth yn dweud bod hi'n bwysig bod pobl anabl neu unigolion gyda chyflyrau iechyd hir dymor yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y gwaith

Mae gormod o bobl gydag anableddau yn cael eu hatal rhag dychwelyd i'w gwaith am nad yw cyflogwyr yn barod i wneud addasiadau rhesymol, meddai elusen.

Yn ôl Cyngor Ar Bopeth Cymru, mae pobl gyda chyflyrau iechyd hir dymor hefyd yn cael eu heffeithio ac yn teimlo bod cyflogwyr yn gwahaniaethu yn eu herbyn.

Maen nhw'n galw ar y llywodraeth a busnesau i ymdrin â'r mater mewn ffordd newydd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod rhaglen Mynediad i Waith yn gallu helpu cyflogwyr i dalu i wneud newidiadau yn y gweithle.

Arferion drwg

Mae pobl sydd gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hir dymor yn llai tebygol o fod mewn gwaith na phobl sydd heb anableddau neu gyflyrau iechyd, meddai'r adroddiad.

Fe gasglodd yr elusen ddata rhwng 2015 a 2016 ac roedd y ffigyrau yn awgrymu bod pobl yn dal i wynebu anffafriaeth gan eu cyflogwyr a bod arferion drwg dal yn bodoli.

Maen nhw'n tanlinellu bod 43% o bobl oed gwaith yng Nghymru sydd gydag anabledd neu gyflyrau iechyd hir dymor yn cael eu cyflogi - hynny i gymharu gyda 79% o bobl sydd ddim yn anabl na gyda chyflwr iechyd.

Mae hynny yn fwlch cyflogaeth o 36%. 32% yw'r bwlch ym Mhrydain.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae "angen newid meddyliau" cyflogwyr am bobl ag anableddau, yn ôl Mared Jarman, sydd wedi ei chofrestru'n ddall

Yn ôl Delyth Jewell, swyddog polisi Cyngor ar Bopeth, mae nifer o ffactorau pam nad ydy rhywun yn gallu parhau i weithio.

"Falle bod nhw yn wynebu anffafriaeth yn y gwaith. Falle dyw'r llefydd gwaith ddim wedi ei addasu ar gyfer pobl gydag anabledd neu falle bod nhw yn teimlo dan bwysau gyda'u cyflogwyr neu gyda phobl eraill yn y gwaith.

"Dyw'r diwylliant yn y lle gwaith ddim yn onest, ddim yn agored ar gyfer pobl i ddatguddio os ydyn nhw'n wynebu problemau."

Mae'n dweud bod y sefyllfa yn gallu effeithio ar hyder person a gwneud iddyn nhw deimlo yn anghyfforddus yn eu swydd.

Busnesau angen cymorth

Mae Matt Williams o Ffederasiwn y Busnesau Bach yn cydnabod bod angen i gwmnïau bach wneud mwy i gynorthwyo pobl anabl neu pobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd. Ond mae'r busnesau angen cymorth, meddai, i wneud hyn.

"Mae busnesau bach angen i Lywodraeth Cymru neu San Steffan i'w helpu nhw gael pobl nôl mewn i waith.

"I ni mae hwnna'n edrych fel advice a support i wneud yn siŵr bod 'da nhw'r expertise neu advice neu bethau fel 'na. Ond hefyd bod nhw'n gallu chwilio am y ffordd orau i gael pobl nôl mewn i waith i wneud best practice."

Image caption Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach mae cwmnïau angen cymorth gan y llywodraeth fel eu bod yn medru cynorthwyo unigolyn pan maen nhw yn dychwelyd i'w gwaith

Mewn datganiad, dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU: "Mae nifer y bobl anabl yn y gweithle wedi cynyddu bron 600,000 ers 2013 ac rydyn ni wedi ymrwymo i fynd yn bellach.

"Mae nawdd ar gael trwy ein rhaglen Mynediad i Waith i dalu am gyfarpar neu i gefnogi person anabl sydd efallai angen cymorth i wneud ei gwaith.

"Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws Prydain, yn eu hannog i fod yn rhan o'n hymgyrch Hyder Anabledd fel eu bod yn gallu gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael wrth gyflogi pobl gydag anabledd.

"Ond mae angen gwneud mwy a dyna pam ein bod yn ymgynghori ar ystod o ffyrdd i wella'r cyfleoedd i bobl anabl trwy ein papur gwyrdd gwaith ac iechyd."

'Mwy cynhwysol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu ac yn cefnogi casgliadau adroddiad Cyngor ar Bopeth.

"Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor busnes yng Nghymru ac y mae'r Porth Sgiliau yn fan gwybodaeth i'r rhai sy'n chwilio am gefnogaeth cyflogadwyedd.

"Drwy weithio gyda Bwrdd Strategaeth Busnes Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Ffederasiwn y Busnesau Bach, fe fyddwn yn adolygu y canllawiau sydd ar gael i gwmnïau er mwyn gwneud eu busnesau yn fwy cynhwysol a'i gwneud hi'n haws i bawb eu cyrraedd."