Deiseb April Jones: Dadl yn y senedd

april jones

Mae teulu April Jones yn teimlo eu bod wedi cymryd cam ymlaen tuag at sicrhau dedfrydau llymach ar gyfer troseddwyr rhyw.

Daw hyn wedi i chwaer April, Jazmin Jones ddechrau deiseb ar-lein - mae'r ddeiseb wedi denu dros 120,000 o lofnodion.

Mae deiseb Ms Jones yn galw am sicrhau fod enwau troseddwyr rhyw yn cael eu cadw ar gofrestr am oes, a bod pwerau newydd i blismona'r bobl sy'n chwilio am ddelweddau o gamdrin plant ar y we.

Gan fod unryw ddeiseb ar wefan llywodraeth Prydain sy'n denu cefnogaeth dros 100,000 o bobl, yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y senedd, fe fydd deiseb Ms Jones nawr yn cael ei hystyried gan aelodau seneddol.

Mae'r ddeiseb yn galw ar y Prif Weinidog i sicrhau fod enw pob troseddwr rhyw yn aros ar y gofrestr troseddwyr rhyw am byth, beth bynnag yw natur y drosedd.

Mae'n galw hefyd am sicrhau fod peiriannau chwilio ar y we yn cael eu plismona'n well er mwyn ei gwneud hi'n haws i ddal pobl sy'n chwilio am ddelweddau o blant yn cael eu camdrin. Noda'r ddeiseb hefyd y dylai pobl sydd â delweddau anweddus o blant ar eu cyfrifiaduron gael dedfrydau llymach gan y llysoedd.

Carchar am oes

Roedd April Jones yn bump oed pan gafodd ei chipio tra'n chwarae ger ei chartref ym Machynlleth gan Mark Bridger ym mis Hydref 2012.

Cafodd Bridger ei garcharu am oes am ei llofruddio.

Yn ystod yr achos llys, daeth i'r amlwg ei fod e wedi bod yn chwlio am ddelweddau anweddus o blant cyn cipio April.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ddydd Llun, dywedodd Jazmin Jones, pe bai'r heddlu'n gwybod am ei ddefnydd o'r we i chwilio am ddelweddau anweddus, mae'n bosib na fyddai wedi bod mewn sefyllfa i gipio a llofruddio ei chwaer.

Bydd dadl ar ddeiseb Jazmin Jones yn cael ei chynnal yn San Steffan ym mis Mawrth.

Mewn ymateb i'r ddeiseb mae'r llywodraeth yn dweud ar ei gwefan fod pwerau'r Deyrnas Gyfunol gyda'r mwyaf llym yn y byd i ddelio gyda throseddwyr rhyw.

Ychwanegir fod y gyfraith yn gorchymyn, ar hyn o bryd, bod unrhyw un sy'n parhau i beri risg yn cael ei gadw ar y gofrestr am byth.