Cronfa er cof am Andrew 'Pwmps' wedi codi £12,000

  • Cyhoeddwyd
Andrew PwmpsFfynhonnell y llun, Alun Lenny

Mae cronfa er cof am y dyn camera Andrew 'Pwmps' wedi codi £12,000 ers cael ei sefydlu ym mis Hydref y llynedd.

Bu farw Andrew Davies, neu Andrew 'Pwmps' fel yr oedd yn cael ei adnabod, ym mis Chwefror 2016.

Bwriad y gronfa yw helpu pobl sy'n gweithio yn y cyfryngau creadigol sydd â chanser neu salwch difrifol arall.

Yn ôl gweddw Mr Davies, Llio Silyn, y gobaith yw helpu pobl sydd mewn sefyllfa debyg i'r un yr oedden nhw ynddi.

'Anodd dros ben'

"O'dd Andrew yn ddyn camera hunangyflogedig ac mae gennym ni siop," meddai.

"Ac i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis canser neu unrhyw salwch difrifol arall yn y blynyddoedd diwethaf, mae'n gallu bod yn anodd dros ben i gael budd-daliadau oherwydd toriadau gan y llywodraeth bresennol."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU na fyddai modd iddyn nhw roi sylw am achos penodol heb fwy o wybodaeth ond fe wnaethon nhw ddarparu gwybodaeth am y math o fudd-daliadau y mae person yn gallu hawlio.

Mae modd i bobl sydd yn sâl neu ag anabledd hawlio budd-dal ariannol trwy Lwfans Cefnogaeth Cyflogaeth neu Daliad Personol Annibynnol sef budd-dal sydd yn helpu gyda chostau ychwanegol salwch hir dymor neu anabledd. Mae'n berthnasol i bobl rhwng 16 a 64 oed.

Ymateb 'anhygoel'

Ychwanegodd Ms Silyn bod yr arian yn y gronfa ar gael i "bob math o bobl" yn y diwydiant, fel awduron, cyfarwyddwyr, pobl dechnegol, actorion a chantorion.

Mae'r ymateb i'r gronfa wedi bod yn "anhygoel", meddai.

"Mae pawb yn gwybod am rywun neu yn perthyn i rywun sy'n dioddef o ryw fath o salwch difrifol neu ganser," meddai Ms Silyn.

"Mae'n cyffwrdd â bywydau bron iawn pawb yn anffodus, a dyna pam mae pobl eisiau cyfrannu."

Gobaith Ms Silyn yw y bydd pobl yn cysylltu yn gofyn am help.

"Da' ni yna i roi cymorth i chi yn ystod salwch difrifol lle mae gwir angen help ariannol, i gadw eich meddwl yn dawel fel eich bod yn gallu canolbwyntio ar y pethau positif mewn bywyd, yn lle poeni am arian a sut 'da chi'n mynd i dalu'r bil nesaf," meddai.

Bydd unrhyw arian fydd yn weddill erbyn mis Ebrill yn cael ei rannu rhwng elusen Macmillan, Old Mill a Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli.