Mwy na chrib a siswrn

  • Cyhoeddwyd
dafydd rhysFfynhonnell y llun, dafydd rhys thomas

Mae un dyn o Lanwenog yn teithio yn bell er mwyn cadw'r byd mewn steil.

Dafydd Rhys Thomas, 28, yw Pennaeth Addysgol Rhyngwladol cwmni offer trin gwallt GHD.

Bu'n trafod ei brofiadau gyda Cymru Fyw.

Wrth dyfu lan, roedd trin gwallt yn apelio. Os o'n i'n sâl, ac i ffwrdd o'r ysgol, ro'n i'n dwlu eistedd yna yn gwylio mam wrth ei gwaith, yn trin gwallt. Roedd hi'n gwneud pobl yn lot fwy hapus, yn cyfathrebu gyda nhw - roedden nhw'n dod mewn yn reit fflat, ond yn gadael yn glamourous.

Wrth i fi dyfu'n hŷn, a mynd i Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, es i drwy gyfnod o eisiau bod yn beilot, neu bensaer, neu adeiladwr.

Mae gen i NVQ1 mewn Gwaith Coed a dweud y gwir! Ro'n i'n dwlu ar greu, yn dwlu ar siapiau ac yn dwlu ar onglau. Wnes i ddechrau meddwl wedyn, wel ydw i'n mynd ar drywydd gwaith coed oherwydd mai dyna oedd y status quo? Achos mai dyma mai bechgyn i fod i wneud?

"To hell with it, dw i'n mynd i fod yn hairdresser!"

Ar ôl siarad gyda theulu, dyma benderfynu mynd yn steilydd gwallt. Dw i'n cofio meddwl, 'Chi'n gwybod be? To hell with it, dw i'n mynd i fod yn hairdresser!"

Mae wedi bod yn od iawn. Doedd byth awydd gyda fi fynd i fyw dros y ffin. O'n i'n meddwl bod Caerdydd yn ddigon o ddinas i fi. Dw i'n Gymro i'r carn, ac yn dwlu cyfathrebu gyda phawb yn Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Rhys Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Faint o wallt sy' dan yr het 'na te?

Pan o'n i'n 25, ac yn gweithio yn salon Ken Picton ym Mae Caerdydd, dechreuais i wneud lot mwy o waith creadigol. Fues i'n hyfforddi i L'oreal yn rhyngwladol, ac i gwmni GHD hefyd. Ro'n i'n hedfan ar hyd a lled y byd, o Awstralia, Dubai, Sbaen. Yna wnaeth y byg trafaelu gydio ynof i. Ro'n i'n dwlu teithio, a chael siarad gyda phobl o wledydd gwahanol ac o ddiwylliannau amrywiol.

Teulu'n dotio...

Mae fy nheulu wrth eu bodd yn fy ngweld i'n llwyddo. Ond yn enwedig Nain. Roedd Jams Thomas, fy nhad-cu, sydd wedi marw erbyn hyn, yn trafaelu dipyn. Mae Nain wastad yn dweud wrtha i, "Ti'n gwmws fel dy datcu!", sy'n lyfli. Dw i wastad yn ei ffonio hi o'r maes awyr bob tro dw i'n mynd dramor ac mae'n joio fy ngweld i'n mynd.

Ond stori wahanol yw gyda fy Nhatcu arall, sy'n ffermio. Mae e'n gefnogol iawn, wrth gwrs, ond mae e'n typical ffermwr. Dw i'n cofio fe'n fy holi unwaith, "I ble wyt ti off nawr de?" a finnau'n dweud fy mod i'n mynd i Awstralia. Ei ymateb? "Wel diawch erioed, does dim hairdresser hanner call rhwng fan hyn ac Awstralia sy'n gallu gwneud y job yn dy le ti de?"

Fi sy'n ysgrifennu'r cwricwlwm addysg i'r cwmni, yn rhyngwladol. Ni'n edrych ar beth yw'r trends diweddaraf ar y catwalk, neu mewn cylchgronau. Popeth sy'n cael ei ddysgu'n rhyngwladol i GHD, mae'n dod trwydda i.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Rhys Thomas

Mae'r gwahaniaeth rhwng bob gwlad yn ffantastig. Ry'n ni ym Mhrydain yn lico gwead - mae texture y gwallt yn bwysig iawn i ni, ond wedyn cerwch chi i Sbaen, mae'n well ganddyn nhw wallt mwy sleek, silky. Gwallt sydd â sglein iddo.

Yn Ne Affrica maen nhw'n lico mwy o braids a gwaith mwy intricate. Yn Hong Kong wedyn, achos eu bod nhw'n naturiol gyda gwallt syth, maen nhw'n tueddu i ddwlu ar wallt sydd â bach o siâp iddo fe, bach o gwrl neu wave.

Gyda'r gwanwyn ar y ffordd, fe fydd braids yn boblogaidd, yn enwedig micro braids. Y manylion bach sy'n mynd i greu argraff. Mae atodion gwallt yn ffasiynol iawn ar hyn o bryd hefyd. Sychwch eich gwallt, rhoi tong trwyddo, wedyn rhoi cwpwl o atodion, fel embellishment i'r gwallt.

Ond dyddiau yma, yr hyn sy'n braf yw bod pobl yn trio pethau newydd. Chi'n gweld pobl ar Instagram a gwefannau cymdeithasol yn arbrofi, ac mae hynny'n liberating iawn.

OMB!

Y braw mwyaf ges i oedd pan o'n i'n dysgu yn Dubai ac oedd rhaid i fi fynd i gael cyfarfod yn Saudi Arabia.

Yn sydyn iawn dyma fi'n cael fy hala i eistedd mewn stafell gyda dau ddyn yn fy ngwarchod a phedwar dyn arall gyda dryllau! Ac fe ges i fy nghroesholi am pam oedd gen i wallt ffug yn fy mag a beth o'n i'n ei wneud gyda chasgliad o sisyrnau.

Ges i gymaint o ofn! Dw i'n cofio meddwl "O Mam fach, a gaf i weld Cymru unwaith eto!"

Ffynhonnell y llun, Dafydd Rhys Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na fwy i'r job 'ma 'na chrib a siswrn