Derby 3-4 Caerdydd

Derby Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kadeem Harris a Craig Noone yn dathlu

Llwyddodd Caerdydd i sicrhau tri phwynt gwerthfawr yn y bencampwriaeth drwy guro Derby ar eu tomen eu hunain.

Roedd yr Adar Gleision ar ei hôl hi o ddwy gôl i ddim wedi 20 munud o chwarae, wedi i Julien De Sart a Darren Bent sgorio dros y tîm cartref.

Sgoriodd Kadeem Harris cyn ac ar ôl yr egwyl i ddod â'r ymwelwyr yn ôl yn gyfartal, ac fe darodd Craig Noone y bêl i gefn y rhwyd wedi 57 munud i fynd â Chaerdydd ar y blaen.

Daeth Darren Bent â Derby yn ôl yn gyfartal o fewn y chwarter olaf, ond sicrhaodd Joe Ralls gôl o gic gosb yn yr amser ychwanegol gan sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Adar Gleision.