BBC Cymru Fyw

Lluniau: Cymru yn y 90au

Published
image captionSara Ogwen Williams yn gwisgo'r ffrog oedd yn symbol o Cŵl Cymru
Bydd cyfle i chi ail fyw eich ieuenctid ffôl pan fydd cyfres newydd ar BBC One Wales yn dadansoddi'r ddegawd pryd cafodd Cymru ei thrawsnewid - y 90au.
  • Wales in the Nineties, A Nation for all, BBC One Wales, Nos Lun, 27 Chwefror, 22:40
Dyma ddegawd Cŵl Cymru a sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac roedd pobl yn 'smygu mewn tafarndai!
Mi fydd y casgliad yma o luniau yn sicr yn eich paratoi yn feddyliol ar gyfer y rhaglen:
image captionScott Gibbs yn dryllio gobeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn yn 1999. Enillodd Cymru 32-31 yn Wembley
image captionRoedd hi'n amser "malu cacan siocled" yn 1996 wrth i Jonsi ddod yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru
image captionCatatonia: 1999. Lle mae dy het di Cerys?
image captionAmser mynd â'r ci am dro!
image copyrightS4C
image captionOeddech chi'n codi'n gynnar i wylio Slot Sadwrn ar S4C gyda Daniel Glyn a Gaynor Davies? Ai chi yw un o'r plant yn y llun?
image captionPan drodd Ioan Gruffudd ei fflachlamp ymlaen, fe wnaeth e sylweddoli ei fod wedi hen adael Cwmderi ac wedi dod i amlygrwydd byd-eang yn y ffilm 'Titanic' (1997)
image captionCofio rhain? Siopau recordiau oedden nhw'n arfer eu galw nhw. Roedden nhw'n boblogaidd iawn am flynyddoedd...
image caption"Pa fotwm 'dy ni'n ei bwyso i gael S4C?" Roedd cyfrifiaduron mewn ysgolion yn dechrau dod yn olygfa gyfarwydd
image captionIe dros Gymru. O drwch blewyn pledleisiodd y mwyafrif dros sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1997
image caption'Twin Town' gyda Rhys a Llŷr Ifans
image captionPeidiwch â chynhyrfu! Oedd ganddoch chi 'shell suit' liwgar?
image captionOedd ganddoch chi Gameboy yn y 90au?
image captionRoedd Gorky's Zygotic Mynci'n boblogaidd iawn yn Siapan... a Lerpwl
image captionRoedd teithwyr yn clywed yr ebychiad "Dwi ar y trên!" yn aml yn y 90au
image captionPwy yw'r teulu newydd 'ma yng Nghwmderi?
image captionMi 'naeth y CD ddisodli'r casét yn y 90au. 'Dych chi'n cofio'r bechgyn yma? Ble maen nhw nawr tybed?