Cynlluniau i adfywio Sgwâr y Castell yn Abertawe
- Published
Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i ailwampio Sgwâr y Castell yn Abertawe, gyda'r nod o'i wneud yn ganolbwynt i adfywiad ehangach o ganol y ddinas.
O dan y cynlluniau byddai bwytai yn cael eu hagor ar y safle, ac mae'r cyngor wedi dweud y bydd mwy o wyrddni hefyd.
Byddai'r ffynhonnau yn cael eu tynnu oddi yno, gyda rhai llai yn cael eu gosod yng nghanol y sgwâr.
Pe bai'n cael ei gymeradwyo, y gobaith yw y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 2018.
'Rhan bwysig o'r ddinas'
Mae cynlluniau adfywio eraill eisoes ar waith yn y ddinas, gan gynnwys llety myfyrwyr Dewi Sant, Ffordd y Brenin a pharc manwerthu Parc Tawe.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart bod adfywiad y sgwâr yn "gyswllt canolog i'r holl gynlluniau sy'n mynd 'mlaen ar y funud.
"Ar hyn o bryd, does dim rheswm i fod yn y sgwâr oni bai eich bod yn eistedd yma neu'n cerdded trwyddo," meddai.
"Yr hyn dy'n ni eisiau yw ei wneud yn rhywle i fynd ynddo'i hun, oherwydd mae'n rhan bwysig iawn o'r ddinas."