Athro o Gymru wedi'i wrthod o'r Unol Daleithiau
- Cyhoeddwyd

Mae athro Mwslimaidd o Gastell-nedd Port Talbot yn dweud y bydd yn parhau i fynnu esboniad wedi iddo gael ei atal rhag teithio i'r Unol Daleithiau ar drip ysgol.
Roedd Juhel Miah wedi hedfan i Reykjavik yng Ngwlad yr Iâ gydag Ysgol Gyfun Llangatwg, ble roedden nhw yn dal awyren ymlaen i Efrog Newydd.
Ond cyn i'r awyren adael ar 16 Chwefror cafodd ei gymryd oddi arno gan swyddogion diogelwch.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tramor yn San Steffan, Boris Johnson i "fynegi pryderon" a holi am fwy o fanylion.
Ychwanegodd ei fod ar ddeall bod Mr Miah wedi ei gludo oddi ar yr awyren gan swyddogion o Adran Ddiogelwch Gwladol yr UDA.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan y Swyddfa Dramor a Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.
'Dim esboniad'
Dywedodd Mr Miah, gafodd ei eni yn y DU i deulu o dras Bangladeshi, ei fod yn gyfrifol am wyth o ddisgyblion pan gafodd ei hebrwng oddi ar yr awyren.
"Roedd pawb yn edrych arna'i... fe ofynnais i sawl gwaith ar ba sail, doedd neb yn gallu rhoi ateb i mi," meddai wrth BBC Radio Wales.
"Rydw i eisiau gwybod pam cefais i fy hebrwng oddi ar yr awyren... tan mod i'n cael esboniad pam, dydw i ddim am roi stop arni."
Dywedodd Cyngor Mwslimaidd Cymru eu bod yn "pryderu'n fawr" yn dilyn y digwyddiad, ac mai dyma'r diweddaraf mewn "cyfres o achosion ble mae Mwslimiaid wedi cael eu hatal rhag teithio i'r UDA".
Jeremy Miles: Atal athro rhag teithio i'r UDA yn 'warthus'
Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan AC Castell-nedd, Jeremy Miles, a ddywedodd ei fod yn amau bod y penderfyniad wedi dod yn sgil y gwaharddiad diweddar ar deithwyr o rai gwledydd Mwslimaidd rhag teithio i'r UDA.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ysgrifennu at y llysgenhadaeth yn mynegi eu "siomedigaeth" am driniaeth Mr Miah.
Dywedodd y cyngor bod gan yr athro fisa cymwys i deithio i'r Unol Daleithiau.
Bu'n rhaid i'r trip barhau heb Mr Miah, sy'n athro mathemateg yn yr ysgol, ac maen nhw bellach wedi dychwelyd adref.
'Dim rheswm boddhaol'
Ychwanegodd y cyngor nad oedd chwaith wedi cael mynediad i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Reykjavik.
"Does dim rheswm boddhaol wedi cael ei roi am wrthod mynediad i'r Unol Daleithiau - yn y maes awyr yng Ngwlad yr Iâ nac yn y llysgenhadaeth," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
"Yn ddealladwy, mae'n teimlo wedi'i fychanu ac yn drist am yr hyn sy'n ymddangos yn wahaniaethu heb gyfiawnhad."
Ar 27 Ionawr fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump arwyddo gorchymyn gweithredol i atal ffoaduriaid a phobl o saith gwlad rhag cael mynediad i'r wlad.
Wythnos yn ddiweddarach fe wnaeth barnwr wahardd y gorchymyn - penderfyniad gafodd ei gymeradwyo mewn gwrandawiad llys apêl yn San Francisco.