£2.1m o arian Ewrop i ganolfan forol Porthcawl
- Published
image copyrightPorthcawl Harbourside
Mae canolfan forol newydd ym Mhorthcawl wedi sicrhau £2.1m o gronfa Ewropeaidd.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwyddoniaeth a Sgiliau, Julie James yn cyhoeddi'r arian wrth iddi ymweld â Phorthcawl ddydd Mawrth.
Y bwriad yw creu canolfan fydd yn cynnwys chwaraeon dŵr, cyfleusterau ymarfer corff, yn ogystal â chanolfan wyddoniaeth forol a theatr awyr agored.
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ymhen ychydig fisoedd, gyda'r ganolfan yn agor yn 2019.
Bydd yr adeilad yn cael ei godi ar dir cyngor Pen-y-bont, gyda'r £2.1m yn dod o Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop.
Mae disgwyl i'r cynllun gostio dros £7m ac mae eisoes wedi denu arian o gronfa'r loteri.