O J Williams wedi marw

  • Cyhoeddwyd
oj williams
Disgrifiad o’r llun,
Roedd O J Williams yn wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni BBC Cymru

Bu farw'r bargyfreithiwr a'r cyn-ymgeisydd Ceidwadol, Owen John (O.J.) Williams, yn 66 oed.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, fe'i magwyd yn San Clêr, cyn symud i Harrow, Llundain i dderbyn ei addysg yn 13 oed.

Aeth ymlaen i astudio'r Gyfraith yng Ngholeg Y Brifysgol, Rhydychen, cyn iddo gael ei alw i'r bar yn y Middle Temple yn Llundain.

Roedd yn fargyfreithiwr troseddol llwyddiannus, yn cynrychioli milwyr mewn achosion milwrol yn fwy 'na dim.

Fe safodd mewn sawl etholiad ar ran y Ceidwadwyr, yn bennaf yng Ngheredigion.

Roedd hefyd yn ddyn busnes llwyddiannus, ac yn berchen ar burfa olew a chwmni dosbarthu tanwydd yng ngorllewin Cymru.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mr Williams yn fyfyriwr yn Rhydychen yr un pryd â chyn Arlywydd America, Bill Clinton

Roedd yn gyfaill i'r Rhyddfrydwr, Geraint Howells, ac fe safodd yn ei erbyn mewn sawl etholiad, gan ddod yn ail iddo yng Ngheredigion a Gogledd Penfro yn etholiad cyffredinol 1987.

Bu'n gyfrannydd cyson i raglenni BBC Cymru, ac un oedd yn ei adnabod yn dda oedd y cyn-ddarlledwr, ac un o benaethiaid cwmni Liberty Global, Guto Harri.

"Roedd yn gymeriad hoffus iawn, yn chwareus ac yn hynod o ddeallus," meddai.

"Dyn gwâr iawn, ac yn Gymro i'r carn oedd yn genedlaetholwr gydag 'c' fach, roedd yn agos iawn ar adegau i fod yn genedlaetholwr agored gyda thueddiadau cryf tuag at Plaid Cymru."

Eglurodd Guto Harri fod Mr Williams wedi cadw'n gryf at ei wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin, er bod ei fywyd a'i waith wedi mynd ag o i Chelsea yn Llundain am ran helaeth o'i oes.

'Rhyddfrydig ei naws'

"Roedd yn Geidwadwr gwâr efo calon fawr tuag at Gymru. Yn rhyddfrydig iawn ei naws. Roedd yn drueni ei fod heb gael sedd seneddol oherwydd roedd yn cynrychioli adain waraidd iawn o'r blaid Geidwadol, ac roedd yn berson oedd o blaid Ewrop."

"Roedd yn trysori iaith y nefoedd, ac yn falch o ddweud bod ei ferch, sydd erioed wedi byw yng Nghymru, yn siarad Cymraeg glân gloyw, ac yn gyhoeddwraig llwyddiannus yn Llundain"

Bu O J Williams yn byw ers rhai blynyddoedd ar hen fferm y cyn-Brif Weinidog, James Callaghan, ger Brighton yn ne ddwyrain Lloegr, lle oedd ei wraig yn hyfforddi ceffylau rasio.

Fe roddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, deyrnged iddo ar wefan Twitter: "Mae'n ddrwg gen i glywed fod un o hoelion wyth y Ceidwadwyr, yr ymgeisydd seneddol a'r dyn busnes o Gymru, O J Williams, wedi marw. Rwyf yn meddwl am y teulu."

Mae Mr Williams yn gadael gwraig a merch.