Adran 2: Casnewydd 1-1 Morecambe

  • Cyhoeddwyd
bathodyn CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth yr hen ystrydeb am gêm o ddau hanner yn wir yng Nghasnewydd nos Fawrth. Roedd gobaith a hyder y tîm cartref yn tyfu'n araf yn ystod yr hanner cyntaf yn enwedig ar ôl gôl Aaron Williams wedi deunaw munud.

Ond ni fu'r ail hanner yn garedig wrth Gasnewydd wrth iddynt golli trefn nid yn unig yn yr ymosod ond yn yr amddiffyn hefyd.

Ildiodd y tîm o Went sawl cic gosb mewn mannau peryglus, ac yn anorfod fe sgoriodd Morecambe drwy gic gosb gan Michael Rose ar ôl chwe deg wyth munud.

Ond nid oedd Morecambe yn fodlon ar gêm gyfartal - roedd yr ymosod yn gyson a di-flino drwy'r ail hanner ond heb lwyddiant.

Wrth i'r naw deg munud glosio roedd y naill ochr a'r llall yn parhau i ymosod a'r ddwy ochr yn ysu am y tri phwynt.

Prin fod gêm gyfartal yn gymorth mawr i Gasnewydd gan eu bod chwe phwynt o ddiogelwch ar waelod yr ail gynghrair.

Felly mae Casnewydd yn aros ar waelod y tabl ac mae gobaith dringo allan o drafferthion bellach yn denau iawn.