Cwpwl o Dde Cymru wedi'u llofruddio yn Ne Affrica
- Published
Mae cwpwl, o dde Cymru yn wreiddiol, wedi cael eu llofruddio yn Ne Affrica.
Fe gafodd corff Christine Solik, oedd yn 57 oed ac yn wreiddiol o Aberpennar, ei ddarganfod wedi'i glymu 50 milltir o'i chartref yn nhalaith Kwazulu-Natal.
Yna ddydd Llun fe gafodd corff ei gŵr Roger, oedd yn 66 oed, ei ddarganfod gerllaw.
Mae'r heddlu yn Ne Affrica yn credu bod y cwpwl wedi cael eu herwgipio o'u cartref yn ystod lladrad ddydd Gwener, 17 Chwefror.
Fe wnaeth Mrs Solik ddychwelyd i Gymru fis diwethaf i fynd i angladd ei thad Glyn Savage.
'Anodd deall'
Mae pedwar plentyn y cwpwl wedi cyhoeddi datganiad yn annog pobl i roi cymorth wedi'r lladrad.
Fe ddywed y datganiad: "Roedd ein rhieni yn anwahanadwy ac roedd eu perthynas yn ysbrydoliaeth.
"Mae'n anodd deall sut y gallai rhywbeth mor dreisgar ddigwydd ar eu stâd fferm gymunedol, gyda bryniau naturiol hyfryd a chymdogion 100 metr i ffwrdd."
Fe wnaeth y cwpwl, sydd hefyd â dau o wyrion, briodi yng Nghymru yn 1980 a symud i Dde Affrica y flwyddyn ganlynol.
Yn wreiddiol fe wnaethon nhw ymfudo am ddwy flynedd, ond yna fe wnaethon nhw benderfynu aros yn Ne Affrica.