Galw am bensiwn oes i weddwon heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae deiseb yn galw am weddwon plismyn yng Nghymru a Lloegr i dderbyn pensiwn am eu hoes wedi denu mwy na 15,000 o lofnodion.
Mae llefarydd ar ran undeb yr heddlu - Ffederasiwn yr Heddlu - wedi dweud bod y system bresennol yn "hynafol ac angen ei diwygio" a'i bod yn "amlwg yn annheg".
Mae rhai gweddwon a gwŷr gweddw yng Nghymru yn gorfod dewis peidio mynd i fyw gyda phartneriaid newydd rhag ofn iddyn nhw golli'r pensiwn.
Mae ymgyrchwyr wedi galw am newid y rheolau fel eu bod yn debyg i'r rheini yng Ngogledd Iwerddon, ble mae gweddwon plismyn yn cael gwarant o bensiwn am oes.
Sion Tecwyn aeth i holi Jan Roberts a Gordon Tester
Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud rhai newidiadau sy'n golygu bod gweddon i blismyn fu farw wrth eu gwaith yn derbyn pensiwn am oes os nad ydyn nhw wedi ailbriodi, a ddim yn byw gyda phartner newydd erbyn 1 Ebrill 2015.
I weddwon a gwŷr gweddw plismyn ddaeth o dan y rheolau yn 2006, fe fyddwn nhw hefyd yn derbyn pensiwn, p'run ai ydyn nhw wedi ailbriodi neu gydfyw neu beidio.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU: "Mae'r llywodraeth yma wedi gwneud yn glir ei hymrwymiad i sicrhau bod pensiynau'r gwasanaethau cyhoeddus yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn deg.
"Dyna pam y gwnaethon ni gyflwyno rheolau newydd ar ddechrau'r llynedd sy'n golygu bod gweddwon, gwŷr gweddw a phartneriaid sifil swyddogion o'r heddlu fu farw wrth eu gwaith yng Nghymru a Lloegr ddim yn colli'u pensiynau os ydyn nhw'n ailbriodi, ffurfio partneriaeth sifil neu gydfyw."