Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
Thomas CodyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad laddodd Thomas Cody

Mae dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf nos Fawrth bellach wedi ei enwi.

Roedd Thomas Cody o Gilfynydd, Pontypridd yn deithiwr mewn car pan gafodd ei ladd yn y gwrthdrawiad ar yr A4119 yng Ngroes-faen - tua thair milltir i'r de o Lantrisant - am 19:40.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un welodd y car Citroen porffor cyn y digwyddiad nos Fawrth i gysylltu â nhw.

Dywedodd teulu Mr Cody eu bod yn torri eu calonnau ar ôl colli "mab, brawd, ŵyr, ewythr a nai cariadus, annwyl a charedig".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4119 ger y gyffordd â Heol Tynant