Dyn 23 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad â lori

  • Cyhoeddwyd
B4245Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger bragdy Magwyr fore Mercher

Mae dyn 23 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â lori yn Sir Fynwy fore Mercher.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Corsa a'r lori ger bragdy Magwyr am 05:49.

Dywedodd Heddlu Gwent y bu farw gyrrwr y car yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r llu ar 101, ac mae'r ffordd yn parhau ar gau i'r ddau gyfeiriad tra bo'r ymchwiliad yn parhau.