Duges Caergrawnt yn ymweld ag elusennau plant
- Cyhoeddwyd

Mae Duges Caergrawnt wedi bod yn ne Cymru ar ei hymweliad swyddogol cyntaf fel noddwraig elusen blant.
Fe wnaeth ymweld â chanolfannau elusen Action for Children yn Nhorfaen a Chaerffili ddydd Mercher.
Daeth yn noddwraig frenhinol ar yr elusen wedi i'r Frenhines roi'r gorau i'r rôl ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Syr Tony Hawkhead, prif weithredwr yr elusen, ei fod "wrth ei fodd" i gael ei chyflwyno "i'r gwaith arbenigol yr ydym yn ei wneud gyda theuluoedd".
Mae'r dduges yn ymweld â Gwasanaeth Ymyrraeth Amlddisgyblaethol Torfaen, sef cynllun iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n gweithio gyda phlant mewn gofal gyda theuluoedd maeth neu deuluoedd geni.
Yn ddiweddarach fe fydd yn cyfarfod Tîm Ymyrraeth Teuluoedd Caerffili, sydd yn gweithio gyda phlant sydd ag anhawsterau emosiynol neu ymddygiad, problemau gyda pherthynas deuluol neu sydd mewn peryg o hunan niweidio.
Fe fydd hi hefyd yn gwrando ar sesiwn therapi teuluol breifat, gan gymryd rhan mewn trafodaeth er mwyn dysgu mwy am faterion mae plant a theuluoedd yn eu hwynebu, a'r gefnogaeth mae Action for Children yn ei gynnig.
Dywedodd Syr Tony: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'w Mawrhydi am ei diddordeb parhaus yn y gwaith hanfodol yr ydym yn ei wneud, nid dim ond yng Nghymru, ond ymysg ein 600 o wasanaethau ar draws y DU."