£53,000 i wahardd prif weithredwr cynghorau iechyd
- Published
Mae gwahardd prif weithredwr bwrdd iechyd cymunedol wedi costio dros £53,000 mewn taliadau cyflog ychwanegol.
Cafodd Tony Rucinski ei wahardd fel pennaeth Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru ym mis Chwefror 2016.
Yn y cyfamser mae dau uwch swyddog yn gweithredu fel prif weithredwyr.
Dywedodd y bwrdd nad oedd unrhywbeth i'w ychwanegu i'r datganiad gan y cadeirydd fis diwethaf, pan ddywedodd hi bod y cyfan yn mynd drwy broses personél.
Mae Dr Rucinski yn parhau i fod ar gyflog llawn. Mae'n cael cyflog o £90,000 y flwyddyn.
£53,511
Cafodd y manylion am y gwariant ychwanegol eu datgelu mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru - ond mae'r bwrdd wedi gwrthod datgelu costau cyfreithiol o ganlyniad i'r gwaharddiad.
Dyw'r rhesymau am waharddiad Dr Rucinski ddim wedi cael eu datgelu'n gyhoeddus, ac ar hyn o bryd mae Alyson Thomas a Clare Jenkins yn gweithredu ar y cyd fel prif weithredwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Tan ddiwedd Ionawr 2017 roedd y gwariant ychwanegol ar gyflogau yn £53,511."
Ond fe ddywed y sefydliad nad oedd modd datgelu union swm nac amcangyfrif y costau cyfreithiol na chost y broses bersonél o ganlyniad i'r gwaharddiad.
'Gwneud i bethau ddigwydd'
Mae'r sefydliad yn disgrifio ei hun fel "llais annibynnol i gleifion" yng Nghymru.
Roedd gan y bwrdd a'r saith cyngor iechyd cymunedol y mae'n eu goruchwylio gyllideb flynyddol o £3.8m yn 2015-16.
Cafodd Dr Rucinski ei benodi yn brif weithredwr yng Ngorffennaf 2015 - roedd hi'n swydd newydd.
Ar y pryd fe ddywedodd wrth BBC Cymru ei fod wedi cael ei benodi er mwyn "gwneud i bethau ddigwydd".
Bedwar mis yn ddiweddarach cafodd Mutale Merrill ei phenodi fel cadeirydd newydd y bwrdd. Cafodd Dr Rucinski ei wahardd o'i waith ym mis Chwefor 2016.
Mae nifer o ffynonellau wedi dweud wrth BBC Cymru bod tensiwn rhwng Dr Rucinski a Ms Merrill cyn y gwaharddiad.
Mewn datganiad fis diwethaf, fe ddywedodd cadeirydd y bwrdd: "Gallai gadarnhau ar ran Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru bod yna broses bersonél yn ymwneud â'r prif weithredwr yn digwydd ac y mae'r broses honno yn mynd rhagddi."