Rhosgoch: Gobaith creu llety i gannoedd o weithwyr adeiladu
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni sy' tu ôl i gynllun Wylfa Newydd wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo cytundeb gyda pherchnogion hen safle Shell yn Rhosgoch, all arwain at greu llety dros dro ar gyfer cannoedd o weithwyr adeiladu.
Mae'r cyhoeddiad wedi cael croeso gan gyngor tref Amlwch, sydd wedi mynegi pryderon ers tro ynglyn â chynllun i sefydlu llety o'r fath ar gyrion y dref.
Mae hen safle Shell yn Rhosgoch, sydd rhyw dair milltir o Amlwch, wedi bod yn wag ers blynyddoedd.
Yn y 70au a'r 80au roedd y lle'n derbyn olew o'r tanceri enfawr oedd yn dod i borth Amlwch.
Ond nawr mae cwmni Horizon yn ystyried defnyddio'r safle 200 erw fel llety i rai o'r cannoedd o weithwyr fyddai eu hangen i adeiladu'r Wylfa Newydd.
Adroddiad Sion Tecwyn ar y gobeithion y bydd Wylfa Newydd yn creu llety i gannoedd yn Rhosgoch
Clywodd Newyddion 9 mai gobaith rhai yw y gall Rhosgoch gael ei ddatblygu'n wersyll gwyliau wedi i'r gweithwyr adeiladu adael.
Mae safle ar gyrion Amlwch ei hun hefyd dan ystyriaeth fel llety dros dro, ond mae'r cyngor tref yn gobeithio y bydd y cytundeb ynglyn â Rhosgoch yn gwneud hynny'n llai tebygol.
Ychydig fisoedd yn ôl, daeth rhyw 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn y dref i fynegi eu pryderon.
Mae cyngor Amlwch hefyd yn dymuno gweld y cyngor sir yn ryddhau peth o'u tir eu hunain i godi tai rhent a allai fod ar gael i'r gymuned wedi i'r adeiladu ddod i ben.
Ymateb Horizon
Dywedodd llefarydd ar ran Horizon: "Mae manylion ein trafodaethau masnachol gydag amrywiaeth o dirfeddianwyr posibl yn gyfrinachol, ond gallwn ddweud ein bod wedi cytuno ar opsiynau gyda Conygar, perchnogion safle Rhosgoch.
"Er hynny, ar y cam hwn o ddatblygiad Wylfa Newydd, nid oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud eto ynghylch y safleoedd rydyn ni'n eu ffafrio ar gyfer Llety Gweithwyr Adeiladu Dros Dro.
"Wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Llety Gweithwyr Dros Dro ar Ynys Môn i weithlu adeiladu Wylfa Newydd, rydyn ni'n dal i weithio at lunio fersiwn terfynol ein Strategaeth Llety Gweithwyr Adeiladu.
"Yn ystod ail gam ein Hymgynghoriad Cyn Ymgeisio y llynedd, roedden ni wedi gofyn am adborth ar yr holl safleoedd posibl a oedd wedi'u nodi ar gyfer Llety Gweithwyr Dros Dro, ac yr oedd hynny yn cynnwys safle Rhosgoch ger Amlwch. Bydd yr adborth yma'n ein helpu i ddod at ein penderfyniadau terfynol."