Pier Gynt
- Cyhoeddwyd

Difrod pellach i bier Bae Colwyn yn sgil Storm Doris ar 23 Chwefror
Gyda Storm Doris wedi creu mwy o ddifrod i bier Bae Colwyn beth fydd y dyfodol i'r strwythur hanesyddol oedd unwaith yn denu ymwelwyr o bell ac agos i ogledd Cymru?
Mae dirywiad amlwg y pier dros y blynyddoedd diweddar wedi arwain at ei gau am resymau diogelwch a dadlau ffyrnig wedi bod am ei ddyfodol.
Gwrthododd Lywodraeth Cymru gais i ddymchwel y pier yn 2015 ond wedi i ddarn ohono syrthio i'r môr ddechrau Chwefror 2017 cytunwyd ei dynnu i lawr cyn i fwy o ddifrod gael ei wneud
Y bwriad yw ei atgyweirio rywbryd yn y dyfodol.
Amser a ddengys a fydd hynny'n digwydd - yn y cyfamser beth am fwynhau lluniau o'r pier yn ôl i'w oes aur:
Traeth Bae Colwyn ddiwedd y 19eg ganrif, cyn i'r pier gael ei adeiladu
Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Agorodd y pier 360 llath a'r pafiliwn ar 2 Mehefin 1900
Arweinydd y gerddorfa ar y noson agoriadol oedd Jules Rivière, y cerddor amryddawn a phoblogaidd o Baris
Ffynhonnell y llun, Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn
Tua 1900-03, cyn i estyniad gael ei roi i'r pier er mwyn gallu cynnal perfformiadau awyr agored
Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Cafodd y pafiliwn ei ddinistrio mewn tân yn 1922blaze
Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Yn 1933 daeth anffawd arall wrth i ddau dân ddinistrio'r pafiliwn a'r theatr
Ffynhonnell y llun, David Roberts Photography
Yn y 1970au cafodd y pafiliwn ei ail-agor fel y Dixieland Showbar
Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Yn 1986 roedd amcangyfrif bod angen gwerth tua £250,000 o waith adfer
Mae 'na ddadlau ffyrnig wedi bod yn lleol ynglŷn â dyfodol y pier
Dyma gynlluniau posib gafodd eu cynnig gan y grŵp Shore Thing yn 2011 er mwyn ei adfer
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae blaen y pier yn edrych yn llawer llai mawreddog nag oedd o pan agorodd yn 1900
Trist oedd gweld y pier yn dechrau syrthio'n ddarnau ar ddechrau Chwefror 2017
Ffynhonnell y llun, STEVEN THOMAS/ROBY AERIAL
Beth fydd dyfodol y pier?
(Cafodd yr oriel hon ei chyhoeddi ddiwethaf ar Cymru Fyw ar 22 Hydref 2015)