397 o ffoaduriaid o Syria wedi ailgartrefu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ffoaduriaid yn Steddfod
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhai o'r ffoaduriaid sydd yng Nghymru yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach ym mis Awst

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref, mae o leiaf 397 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi eu hailgartrefu yng Nghymru.

Roedd 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn ffoaduriaid o dan gynllun Ailgartrefu Pobl Bregus Syria gan Lywodraeth y DU erbyn diwedd Rhagfyr y llynedd.

Mae rhai cynghorau wedi cael eu beirniadu am fod yn araf yn ailgartrefu pobl.

Daeth croeso i'r ffigyrau gan elusen Oxfam Cymru.

Dywedodd Matthew Hemsley ar ran yr elusen: "Mae gan Gymru hanes balch o groesawu pobl mewn angen ac mae'n bwysig gweld y traddodiad yna'n parhau."

Yn ail hanner 2016 y daeth y mwyafrif o ffoaduriaid i Gymru, sef 285. Mae cyfanswm y ffoaduriaid i gael eu derbyn i'r DU yn 5,454.

Yng Nghymru, mae'r nifer o ffoaduriaid i gael eu derbyn gan y cynghorau unigol fel a ganlyn:

  • Ynys Môn - 4;
  • Blaenau Gwent - 10;
  • Pen-y-bont ar Ogwr - 6;
  • Caerffili - 12;
  • Caerdydd - 26;
  • Sir Gaerfyrddin - 33;
  • Ceredigion - 23;
  • Conwy - 3;
  • Sir Ddinbych - 5;
  • Sir y Fflint - 5;
  • Gwynedd - 12;
  • Merthyr Tudful - 8;
  • Sir Fynwy - 15;
  • Castell-nedd Port Talbot - 52;
  • Casnewydd - 10;
  • Sir Benfro - 0;
  • Powys - 44;
  • Rhondda Cynon Taf - 34;
  • Abertawe - 45;
  • Torfaen - 15;
  • Bro Morgannwg - 15;
  • Wrecsam - 20.