Galw am dro pedol ar ad-drefnu chweched dosbarth Torfaen
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni, disgyblion ac athrawon wedi galw ar Gyngor Torfaen i ailystyried cynlluniau i ad-drefnu addysg chweched dosbarth yn y sir.
Bwriad y cyngor yw symud addysg ôl-16 i safle newydd yng Nghwmbrân o fis Medi 2019.
Fel rhan o'r cynlluniau fe fydden nhw'n cael gwared ar y chweched dosbarth yn nhair o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg y sir - St Albans, Croesyceiliog a Chwmbrân.
Ond mae undebau llafur wedi mynegi pryder y gallai staff profiadol golli eu swyddi, ac y bydd rhai disgyblion yn wynebu taith hirach i'r ysgol a llai o ddewis pynciau.
Fyddai'r cynlluniau ddim yn effeithio ar addysg uwchradd Gymraeg yn y sir, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl.
Byddai'r safle newydd yn cael ei redeg gan Goleg Gwent, ac mae corff arolygu Estyn wedi dweud y byddai'r cynlluniau yn debygol o gynnal safonau addysg yn yr ardal.
Ond herio hynny mae ysgrifennydd undeb NUT Cymru, David Evans, sydd yn dweud nad oes "unrhyw beth yn y cynlluniau" sydd yn awgrymu y byddai'r coleg yn gallu darparu'r un safon o addysg a gofal i ddisgyblion.
Ychwanegodd Sophie Toovey, athrawes Saesneg yn St Albans ym Mhont-y-pŵl, y gallai greu "rhwystrau ychwanegol i fyfyrwyr difreintiedig" wrth orfod teithio'n bellach i'r ysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y cynigion yn cynnig "ystod llawer ehangach o gyrsiau academaidd, a hynny o safon gwell", a'u bod yn edrych ar welliannau ffordd er mwyn hwyluso trefniadau teithio.
Straeon perthnasol
- 9 Gorffennaf 2015
- 26 Mawrth 2015
- 11 Chwefror 2015