AS o Gymru yn mynd â deiseb Brexit i Senedd Ewrop
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw ar Senedd Ewrop i ymyrryd ym mhroses Brexit.
Mae Ann Clwyd, AS Cwm Cynon, am i aelodau Senedd Ewrop ganiatáu i ddinasyddion y DU bleidleisio ar unrhyw gytundeb am Brexit pan fydd y trafodaethau'n dod i ben.
Galwodd hefyd am ddiogelu dinasyddion y DU sy'n gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd ac i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio yma.
Mae'r BBC wedi gofyn i lywodraeth y DU am ymateb.
Dywedodd Ms Clwyd: "Os yw mwyafrif Senedd Ewrop ddim yn hapus fe allan nhw i bob pwrpas atal trafodaethau. Rwy'n credu fod hynny'n gryn dipyn o rym."
O dan Erthygl 227 o'r Cytundeb ar Weithredoedd yr Undeb Ewropeaidd, fe all unrhyw ddinesydd gyflwyno deiseb i Senedd Ewrop.
Ychwanegodd: "Pan fydd goblygiadau llawn tynnu allan [o'r UE] yn wybyddus fe fydd llawer o bobl yn newid eu meddyliau."
Mae Ms Clwyd hefyd yn annog ASEau i wahodd y Prif Weinidog Theresa May i'w hannerch nhw.
Dywedodd: "Roedd y refferendwm yn un ymgynghorol ac fe ddylen ni fod wedi ystyried y cyngor, ond hefyd ystyried goblygiadau gadael yr UE oedd ddim yn glir i unrhyw un ohonom ni - doedd gwleidyddion etholedig ddim yn gwybod.
"Yma yn senedd y DU ry'n ni'n dal i ddarganfod mwy amdano. Ry'n ni'n gwybod o fewn y dyddiau diwethaf y gallen ni orfod talu bil anferthol os ydyn ni'n gadael yr UE."
Dywedodd y gallai'r ddwy ochr siarad am y trafodaethau a'r effaith ar y DU.
Ychwanegodd y byddai gadael yr UE yn niweidiol i'w hetholaeth yng Nghwm Cynon ac i weddill Cymru.