Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddio ei ferch fach

  • Cyhoeddwyd
Matthew Scully HicksFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae dyn 31 oed wedi pledio yn ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd i gyhuddiad o lofruddio ei ferch 18 mis oed.

Cafodd Elsie Scully Hicks, oedd wedi ei mabwysiadu, ei darganfod yn farw ar 29 Mai y llynedd.

Mae disgwyl i Matthew Scully Hicks wynebu achos llys ym mis Mehefin.

Roedd cyfyngiadau yn eu lle er mwyn atal y wasg rhag cyhoeddi enw'r diffynnydd ond cafodd y rhain eu disodli yn dilyn cais gan y cyfryngau.

Cafodd Mr Hicks ei rhyddhau ar fechnïaeth ond mae amodau ynghlwm â'r fechnïaeth honno.