Fernandez yn arwyddo cytundeb newydd gydag Abertawe

  • Cyhoeddwyd
federico fernandezFfynhonnell y llun, Athena Pictures

Mae amddiffynnwr Abertawe, Federico Fernandez wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb nes 2020.

Daw hynny wedi i'r clwb wrthod cynnig am yr Archentwr ym mis Ionawr, a hynny gydag ond 18 mis yn weddill ar ei gytundeb.

"Rydw i'n hapus gyda fy mhêl-droed a chyda fy mywyd personol," meddai Fernandez, sydd wedi chwarae 80 o gemau dros yr Elyrch ers arwyddo o Napoli yn 2014.

"Mae'r cytundeb newydd yn hwb mawr i mi achos mae'n dangos bod gen i ffydd yn y clwb. Rydw i nawr yn edrych 'mlaen at y dyfodol."