Carcharu dau ar ôl gwerthu ceir i'r heddlu heb wybod
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu carcharu ar ôl gwerthu gwerth mwy na £100,000 o geir oedd wedi eu dwyn, heb wybod eu bod yn gwneud hynny i'r heddlu.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Dean Cronin, 41, a Daniel Gordon, 28, - y ddau o Gaerdydd - wedi dwyn ceir moethus ar draws de-ddwyrain Cymru.
Fe wnaeth y ddau bledio'n euog i gynllwynio i drin nwyddau oedd wedi'u dwyn.
Cafodd Cronin ei garcharu am dair blynedd a hanner, tra bo Gordon wedi'i ddedfrydu i 20 mis.
Dywedodd Heddlu'r De bod allweddi ceir yn cael eu dwyn o gartrefi yn ystod y nos, cyn cael eu gyrru i ffwrdd.
Ond ar saith achlysur, heddweision cudd oedd wedi prynu'r ceir ganddyn nhw, wrth iddyn nhw geisio adeiladu achos yn eu herbyn.
Rhwng mis Mehefin a Gorffennaf y llynedd, fe wnaeth Cronin a Gordon werthu gwerth £110,000 o geir i swyddogion yr heddlu, a hynny am gyfanswm o lai na £5,400.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dean Taylor bod ymchwiliadau'n parhau i sefydlu achos yn eu herbyn am dorri i mewn i dai i ddwyn allweddi.