Dim cyhuddiad wedi marwolaeth bachgen mewn tân

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunBu farw Jac Davies yn y digwydd ym mis Gorffennaf y llynedd

Ni fydd mam bachgen pedair oed fu farw mewn tân yn Alltwen ger Pontardawe y llynedd yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Fe wnaeth ei fam, Jenny Davies, 28, ddianc o'r tân gyda dau o'i phlant, ac fe gafodd un arall ei achub gan y gwasanaethau brys.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru arestio dynes 28 oed ar amheuaeth o esgeulustod, ond dywedodd y llu na fydd hi'n wynebu unrhyw gamau pellach.

Dywedodd llefarydd: "Mae dynes 28 oed wedi ei rhyddhau heb gyhuddiad yn dilyn cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron."

Nid yw'r cwest i farwolaeth y bachgen ifanc wedi ei gynnal eto.