Dyn yn achosi £220,000 o ddifrod mewn ffrwydrad

  • Cyhoeddwyd
Ty

Fe ddioddefodd dyn losgiadau difrifol ac achosi gwerth £220,000 o ddifrod pan geisiodd achosi ffrwydrad yn ei gartref ei hun.

Bu'n rhaid i William Flindell, 50, dderbyn dau fis o driniaeth arbenigol mewn ysbyty yn dilyn y ffrwydrad yng Nghasnewydd fis Ebrill diwethaf.

Cyfaddefodd Flindell i gyhuddiad o losgi bwriadol a bod yn ddiofal wrth ystyried os oedd bywydau'n cael eu peryglu. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn ystod y 10 niwrnod nesaf.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Flindell wedi ymyrryd gyda chyflenwad nwy ei gartref mewn ymgais i ladd ei hun.

Ffynhonnell y llun, Mathew Horwood

Cafodd eiddo ger ochr ei gartref ar Heol George ei ddifrodi ac fe gafodd tri o bobl eu hanafu yn y ffrwydrad.

Dioddefodd Flindell anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd, gan gynnwys llosgiadau i 58% o'i gorff.

Fe wnaeth adroddiadau seiciatryddol ac adroddiadau'r gwasanaeth prawf ddisgrifio sut yr oedd yn dioddef gydag iselder dwys iawn.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y bydd yn cael ei ddedfrydu.