Cartrefi wedi eu hailgysylltu wedi storm Doris
- Cyhoeddwyd

Mae pŵer wedi cael ei ailgysylltu i holl gartrefi Cymru bellach, mwy na 48 awr ar ôl i storm Doris ddechrau.
Dywedodd Scottish Power iddyn nhw ailgysylltu'r cartrefi olaf, oedd yn Ynys Môn, tua 19:00 nos Sadwrn.
Mae'r cwmni yn dweud y bydd llawer o waith i'w wneud yn yr hir dymor i ddelio gyda'r difrod gafodd ei achosi gan y storm.
Cafodd 600 o beirianwyr o'r Alban eu hanfon i drwsio'r rhwydwaith bŵer ac mae Scottish Power wedi bod yn darparu diodydd a bwyd poeth ar gyfer cwsmeriaid oedd heb gyfleusterau coginio.
Mae Trenau Arriva Cymru wedi ail agor y llinell trên rhwng Llanelli ac Yr Amwythig ddydd Sadwrn.
Ond bydd y llinell rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn aros ar gau tan ddydd Llun gyda bysiau yn cael eu darparu.
Mae Western Power Distribution yn dweud eu bod wedi ailgysylltu eu holl gartrefi bellach, wedi i "filoedd" yn y de fynd heb bŵer ar un cyfnod.
Ddydd Iau fe achosodd y storm ddifrod a thrafferthion teithio.
Fe gofnododd y swyddfa dywydd yng Nghapel Curig wyntoedd o 94 mya.