Achosion o gamdriniaeth ymhlith pobl fregus wedi cynyddu
- Published
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod ymchwiliadau i honiadau o gamdriniaeth ymhlith pobl fregus Cymru wedi cynyddu 11% llynedd.
Roedd 4,485 o achosion wedi eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn 2015-16.
4,040 oedd y ffigwr yn 2014-15.
Camdriniaeth gorffol ac esgeulustod oedd yr achosion gafodd eu cofnodi fwyaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, wnaeth gasglu'r ffigyrau, y gallai'r cynnydd fod wedi digwydd am fod yna well cofnodi.
Mathau eraill o gamdriniaeth sydd yn cael eu cofnodi yw camdriniaeth ariannol, rywiol, emosiynol a seicolegol.
Dangosodd y ffigyrau bod 65% o ymchwiliadau ar gyfer pobl 65 a drosodd a 61% ar gyfer merched.
Yn ôl Age Cymru mae'r ffigyrau ar gyfer pobl 65 a hŷn yn "hollol annerbyniol".
Parhau yn wyliadwrus
Dywedodd Iwan Rhys Roberts o'r elusen: "Mae camdriniaeth ymhlith pobl hŷn yn gallu digwydd unrhywle- yng nghartrefi pobl, yn y stryd, yn y siopau, caffi neu mewn lleoliad gofal.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni ymwybodol o gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn a beth ydy o fel ein bod ni yn gallu dweud wrth rywun pan rydyn ni yn gweld hyn yn digwydd, neu os ydyn ni yn amau bod hyn yn digwydd."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n edrych ar y data er mwyn deall pam bod yna gynnydd wedi bod yn y ffigyrau ac un rheswm posib yw bod camdriniaeth o'r fath yn cael ei gofnodi'n well.
"Er hyn mae'n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus a gwneud yn siŵr bod mesurau yn cael eu cymryd er mwyn atal camdriniaeth ac esgeulustod."
"Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ddaeth i rym Ebrill y llynedd yn cryfhau trefniadau er mwyn amddiffyn plant ac oedolion ac fe fydd y data yma yn bwysig wrth gryfhau'r gwaith yma."