Dyn wedi ei anafu wedi gwrthdrawiad rhwng Capel Curig a Chonwy
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r A5 ail agor yn fuan ar ôl iddi fod ar gau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Capel Curig a Chonwy.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger Llyn Ogwen.
Mae un dyn wedi mynd i Ysbyty Stoke Mandeville gydag anafiadau allai newid ei fywyd.
Mae dyn arall yn Ysbyty Gwynedd ond dyw ei fywyd ddim mewn perygl.