Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 29-13 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tommy SeymourFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cais Tommy Seymour ar ddechrau'r ail hanner i'r Alban

Mae Cymru yn gadael Caeredin yn siomedig wedi perfformiad rhwystredig, di-siap yn ei trydedd gêm ym mhencampwriaeth y chwe gwlad.

Fe gollodd Cymru sawl cyfle ac roedd diffyg disgyblaeth i weld yn glir yn yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu mai dyma'r tro cyntaf i'r Alban ennill yn erbyn Cymru ers degawd.

Yr Alban sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm trwy Finn Russell, cyn i Leigh Halfpenny unioni pethau.

Daeth y cais cyntaf ar ôl 25 munud, gyda chwarae sydyn gan Rhys Webb yn lledaenu'r bêl ar hyd y cefnwyr at Liam Williams, wnaeth groesi'r gwyngalch yn y gornel.

Dwy gic gan Russell ac un gan Halfpenny oedd yr unig bwyntiau arall cyn hanner amser, gyda Chymru ar y blaen o 9-13 ar yr egwyl.

Diffyg pwyntiau

Aeth Yr Alban ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Tommy Seymour groesi yn y gornel er y pwysau arno gan Scott Williams.

Roedd cicio Russell yn parhau'n gywir, wrth iddo sgorio 19 o bwyntiau yn yr 80 munud.

Daeth cyfle i Gymru wrth i Rhys Webb dorri trwy'r amddiffyn a rhoi'r bêl i lawr dros y llinell gais, dim ond i'r dyfarnwr cynorthwyol ddweud, yn gywir, ei fod wedi'i dynnu allan o faes y chwarae.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Liam Williams yn sgorio cais cyntaf y gêm i Gymru

Fe ddaeth enwau mawr oddi ar y fainc i Gymru - Luke Charteris, Taulupe Faletau, Jamie Roberts a Sam Davies - ond doedd yr un yn gallu gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol.

Roedd yr Alban yn dal i bwyso, ac fe wnaeth dwylo hyfryd gan Hogg ryddhau'r asgellwr Tim Visser i sgorio ail gais i'r tîm cartref, ac ymestyn eu buddugoliaeth.

Ni lwyddodd i'r Cymry sgorio unrhyw bwyntiau yn yr ail hanner, wrth i Russell ychwanegu un gic gosb arall cyn y chwiban olaf.

Mae'r canlyniad yn siŵr o olygu y bydd tipyn o drafod am ddyfodol Rob Howley dros y pythefnos nesa cyn y gêm yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd.