Solihull Moors 0-1 Wrecsam
- Published
image copyrightGetty Images
Mae Wrecsam yn parhau yn ddegfed yn y tabl ar ôl curo oddi cartref yn erbyn Solihull Moors.
Daeth cic o'r smotyn llwyddiannus yn gynnar yn y gêm i Anthony Barry ar ôl i groesiad Paul Rutherford's daro braich Kristian Green.
Fe darodd cic rydd Izale McLeod y postyn ond roedd Wrecsam yn edrych yn gyfforddus a Solihull ddim yn cynnig llawer mewn gêm flêr.
Fe gollodd y tîm cartref un o'i chwaraewyr yn yr ail hanner ar ôl iddo gael ei anfon o'r cae.