Gwobrwyo'r goreuon ym myd theatr Cymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr actor Llion Williams ei wobrwyo dwywaith ar gyfer ei berfformiad mewn dwy ddrama wahanol yng ngwobrau Theatr Cymru 2017.
Daeth i'r brig yn y categori Perfformiad gorau gan ddyn yn y Gymraeg ar gyfer Chwalfa ond hefyd ar gyfer ei rôl yn y ddrama Belonging/Perthyn.
Roedd yn chwarae cymeriad sydd yn colli'r gallu i siarad Saesneg am fod ganddo ddementia ac yn mynd yn ôl i siarad ei iaith gyntaf, Cymraeg.
Chwalfa gafodd y wobr ar gyfer y Cynhyrchiad gorau yn y Gymraeg hefyd.
Cafodd yr actores o Abertawe, Sophie Melville, ei gwobrwyo am yr ail waith yn olynol yn y categori menywod ar gyfer y perfformiad gorau yn Saesneg tra bod Siw Hughes wedi cael yr un wobr yn y categori Cymraeg.
Cast a chriw Kommilitonen! gan Opera Ieuenctid WNO oedd yn dathlu ar ôl ennill yn y categori Cynhyrchiad Operau Gorau a Gruff Rhys gafodd y wobr am y Sain Orau ar gyfer The Insatiable, Inflatable Candylion.
Peter Doran gipiodd y Cyfarwyddwr Gorau ar gyfer ei waith yn cyfarwyddo Belonging/Perthyn a'r canwr opera Dennis O'Neill gafodd y wobr Llwyddiant Arbennig.
Mae'r gwobrau yn cael eu rhoi er mwyn cydnabod rhagoriaeth ym myd y theatr, dawns ac opera a 40 o feirniaid sydd yn dewis yr enwebiadau.
Wrth gyfeirio at lwyddiant Llion Williams a Peter Doran dywedodd cyfarwyddwr y gwobrau, Mike Smith: "Mae'r tair gwobr yma yn dangos y cynnydd mewn theatr dwy ieithog yng Nghymru, gan adlewyrchu y berthynas arbennig sydd rhwng y ddwy iaith yn ein cenedl.
"Mae mwy a mwy o sioeau yn ddwyieithog a mwy o waith creadigol yn digwydd o fewn y byd theatr yn Gymraeg er mwyn gwneud hi'n bosib i siaradwyr Saesneg allu gweld y gwaith."
Cafodd y gwobrau eu cyhoeddi yng nghanolfan gelf Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe nos Sadwrn.
Mae'r rhestr enillwyr isod.
Y SIOE ORAU AR GYFER PLANT A PHOBOL IFANC
Cysgu'n Brysur, Cwmni Theatr Arad Goch
SAIN GORAU
Gruff Rhys, The Insatiable, Inflatable Candylion, National Theatre Wales
GOLEUO GORAU
Colin Grenfell, Cat on a Hot Tin Roof, Theatr Clwyd
DYLUNIO A/NEU GWISGOEDD GORAU
Amy Jane Cook, Constellation Street, The Other Room
CYNHYRCHIAD OPERA GORAU
Kommilitonen!, Opera Ieuenctid WNO
PERFFORMIAD GORAU MEWN CYNHYRCHIAD OPERA - GWRYW
Gwyn Hughes Jones, Cavalleria rusticana & Pagliacci, Opera Cenedlaethol Cymru
PERFFORMIAD GORAU MEWN CYNHYRCHIAD OPERA - MENYW
Claire Booth, La Voix Humaine, Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru
ENSEMBLE GORAU
Meet Fred, Hijinx
DRAMODYDD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG
Angharad Price, Nansi, Theatr Genedlaethol Cymru
DRAMODYDD GORAU YN YR IAITH SAESNEG
Matthew Bulgo, Constellation Street, The Other Room
CYNHYRCHIAD DAWNS GORAU
Little Red Riding Hood & The Three Little Pigs, Ballet Cymru
ARTIST DAWNS GORAU - MENYW (PERFFORMIWR A/NEU GOREOGRAFFYDD)
Caroline Finn, Folk, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
ARTIST DAWNS GORAU - GWRYW (PERFFORMIWR A/NEU GOREOGRAFFYDD)
Phil Williams, Theatr Dawns Cascade
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG - MENYW
Sophie Melville, Blackbird, Those Two Impostors at The Other Room
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG - GWRYW
Llion Williams, Belonging/Perthyn, Re-Live
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG - MENYW
Siw Hughes, Mrs Reynolds a'r Cena Bach,Theatr Genedlaethol Cymru
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG - GWRYW
Llion Williams, Chwalfa,Theatr Genedlaethol Cymru
CYNHYRCHIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG
Chwalfa, Theatr Genedlaethol Cymru
CYNHYRCHIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG
Constellation Street, The Other Room
CYFARWYDDWR GORAU
Peter Doran, Belonging/Perthyn, Re-Live
LLWYDDIANT ARBENNIG
Dennis O'Neill