BBC Cymru Fyw

Lloyd Williams, cyn chwaraewr Cymru wedi marw yn 83 oed

Published
image captionY brodyr- Tony, Bleddyn, Cenydd, Elwyn, Lloyd Williams, Vaughan, Brinley a Gwyn
Mae cyn chwaraewr Cymru a mewnwr a chapten Caerdydd, Lloyd Williams, wedi marw yn 83 oed.
Cafodd Lloyd Williams 13 cap dros ei wlad rhwng 1957-1962.
Roedd yn un o saith o frodyr o Ffynnon Taf, pentref ger y brifddinas, wnaeth chwarae ar gyfer Caerdydd.
Yn eu plith oedd y canolwr Bleddyn wnaeth chwarae ar gyfer Cymru a'r Llewod ond fu farw yn 2009.
Dywedodd y clwb eu bod wedi'u tristau a bod eu meddyliau gyda ei deulu a ffrindiau.