Gwahardd ffermwr o'r Wyddgrug rhag gofalu am anifeiliaid
- Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o ardal Yr Wyddgrug wedi cael gwaharddiad rhag gofalu am anifeiliaid am chwe blynedd.
Cafodd Huw Aled Jones, 44, hefyd ddedfryd ohiriedig o 16 wythnos o garchar.
Fe glywodd y llys bod gan Jones anifeiliaid oedd yn marw ar ei dir ar fferm Ffrainc yn Rhydtalog, Sir y Fflint.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi "methu yn ei ddyletswydd i ofalu" am ei anifeiliaid.
Gwrthdaro teuluol
Yn yr achos, fe glywodd llys nad oedd y fferm yr oedd Jones yn ei rhedeg yn un gynaliadwy yn dilyn gwrthdaro teuluol wedi marwolaeth ei dad.
Ugain erw oedd gan Jones, tra bod ei chwaer yn rhedeg 50 erw arall.
Roedd o'n gweithio ar fferm arall yn Sir Amwythig, ac fe arweiniodd hynny at ei fethiant i ofalu am ei wartheg a'i ddefaid ei hun.
Dywedodd ei gyfreithiwr, Victoria Evans, nad oedd wedi gallu ymdopi wedi marwolaeth ei dad, a'i fod yn delio hefyd â chyflwr dyslecsia.
Yn ogystal â'r ddirwy, fe fydd yn rhaid iddo dalu £5,000 tuag at gostau'r erlyniad.