
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Leanne Wood: 'Ymgais i atal addysg Gymraeg yn drasiedi'
3 Mawrth 2017 Diweddarwyd 18:36 GMT
Roedd gwrthwynebiad UKIP i newid Ysgol Llangennech yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn "drasedi", yn ôl Leanne Wood.
Dywedodd wrth gynhadledd wanwyn Plaid Cymru bod y ffrae yn dangos "bod angen gweithredu a bod angen i ni gefnogi penderfyniadau fel un Cyngor Sir Gâr yn Llangennech".
Yn yr un araith, dywedodd mai cefnogi Plaid Cymru yw'r unig ffordd i'r Cymry allu cael "rheolaeth dros eu bywyd".