
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Her i gyflwyno 'safbwyntiau Cymreig'
23 Mawrth 2017 Diweddarwyd 08:04 GMT
Mae rheolwr gwasg y Lolfa yn rhybuddio bod yna fygythiadau i Gymru a'r hunaniaeth Gymreig yn sgil digwyddiadau gwleidyddol diweddar.
Yn ôl Garmon Gruffudd fe allai'r dyfodol fod yn ansicr ac mae'n dweud y bydd y Lolfa, sydd wastad wedi rhoi pwyslais ar hyrwyddo Cymru a'r hunaniaeth Gymreig, yn parhau i wneud hynny "ac i raddau bod yn wasg propaganda dros Gymru."