Dim adolygiad o ddedfryd Andrew Saunders am lofruddio

Bydd dim adolygiad i ddedfryd dyn wnaeth lofruddio'i gyn-gariad a'i phartner yng Nghaerdydd.
Cafodd Andrew Saunders, 21, ddedfryd oes ac isafswm o 23 o flynyddoedd a phedwar mis dan glo am ladd Zoe Morgan a Lee Simmons.
Wedi'r ddedfryd, dywedodd teuluoedd Ms Morgan a Mr Simmons nad oedden nhw'n credu bod y ddedfryd yn ddigon llym.
Ond dywedodd swyddfa'r Twrnai Cyffredinol ddydd Mawrth na fyddai'n gofyn i'r Llys Apêl ailystyried hyd y ddefryd.
Gan fynegi cydymdeimlad tuag at y teuluoedd, dywedodd llefarydd:
"Wedi ystyried yn ofalus, mae'r Twrnai Cyffredinol wedi penderfynu peidio cyfeirio dedfryd oes Andrew Saunders at y Llys Apêl.
"Daeth i'r casgliad na fyddai'r Llys yn newid yr isafswm o 23 mlynedd a phedwar mis o garchar, sydd i'w chwblhau'n llawn gan y troseddwr cyn ystyried ei ryddhau."