Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Llanelwedd

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Llanelwedd nos Fercher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng lori a char Lupo glas am tua 19:50 ar yr A481.
Bu farw'r ddynes oedd yn gyrru'r car ond ni chafodd gyrrwr y lori ei anafu.
Mae ei theulu wedi cael gwybod ac mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101.