Teyrnged i fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw menyw 55 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 ddydd Iau.

Bu farw Diane James o Rydaman ar ôl i'w char Ford Fiesta fod mewn gwrthdrawiad gyda lori ailgylchu ar y ffordd rhwng Maenordeilo a Llandeilo.

Cafodd Ms James ei disgrifio gan ei theulu mewn datganiad fel "mam, mam-gu a gwraig hapus", a dywedodd y teulu bod "colli person mor brydferth wedi ein chwalu".

Cafodd dyn 28 oed ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad a bu ffordd yr A40 ar gau am ran fwyaf o'r dydd.

ffynhonnell y llun, Google
disgrifiad o’r llunFe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Maenordeilo a Llandeilo