Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Jeff Farrar i ymddeol yn yr haf
- Cyhoeddwyd

Bydd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Jeff Farrar, yn ymddeol ddiwedd mis Mehefin ar ôl 35 mlynedd gyda'r heddlu.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu, Jeff Cuthbert, ei fod wedi derbyn llythyr am fwriad Mr Farrar i ymddeol gyda thristwch, a dywedodd y byddai'n ddyn anodd ei olynu.
Dechreuodd Jeff Farrar ei yrfa fel cwnstabl yng Nghaerdydd 35 mlynedd yn ôl.
Cafodd ei benodi'n Brif Gwnstabl Cynorthwyol yng Ngwent yn 2009 ac yna'n Ddirprwy Brif Gwnstabl yn 2011, cyn cael y brif swydd yn 2013.
Yn ystod ei yrfa bu'n gyfrifol am gynllunio a goruchwylio rhai o ddigwyddiadau mawr y DU gan gynnwys Uwchgynhadledd NATO yn 2014, Cwpan Ryder yn 2010, a nifer o gemau pêl-droed fel rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Carling.
'Arweinydd cryf'
Wrth ddiolch iddo am ei gyfraniad dywedodd Mr Cuthbert: "Mae ei gyfraniad i blismona a lles o fewn Gwent wedi bod yn neilltuol ac mae wedi gwasanaethu Heddlu Gwent a phobl Gwent gyda chlod a bri yn ystod ei gyfnod o wasanaeth.
"Wrth wneud job ragorol dangosodd ei fod yn arweinydd cryf sydd â chefnogaeth ei swyddogion, staff a'n partneriaid yn y gymuned.
"Mae'n uchel ei barch ar draws lluoedd heddlu Cymru a Lloegr, Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a chymdeithas sifil yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
"Mae'n ddyn anodd iawn i'w olynu ac rwy'n hyderus y bydd yn parhau i chwarae rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus, ond mewn rôl wahanol. Hoffwn ddiolch iddo am ei gefnogaeth ac anogaeth i mi [fel Comisiynydd]."
Dywedodd Jeff Farrar: "Bu'n fraint enfawr i mi gael gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Gwent am y pedair blynedd diwethaf... fe ddaeth heriau di-ri yn y cyfnod yna, ond rwy'n hyderus y bydd fy olynydd yn etifeddu llu mwy effeithiol ac effeithlon."