Rhedwyr yn creu darlun o'r Ddraig Goch ar ap Strava

Published
image copyrightStrava
image captionY darlun gafodd ei greu gan Martyn Driscoll ac Alan Stone yn defnyddio ap Strava

Mae dau redwr o Gaerdydd wedi defnyddio ap tracio lleoliad i greu darlun o amlinelliad y Ddraig Goch yn Sir Gâr.

Fe wnaeth Martyn Driscoll ac Alan Stone redeg yn bellach na hyd marathon er mwyn creu'r darlun gan ddefnyddio ap rhedeg Strava.

Fe gymrodd y llwybr ym Mrynaman Uchaf wyth awr i'w gwblhau.

Cafodd y darlun ei greu drwy wneud llun ohono ar fap, ac wedyn dilyn y llwybr gan ddefnyddio'r ap i dracio eu lleoliad.

image copyrightMartyn Driscoll
image captionAlan Stone a Martyn Driscoll yn dilyn y llwybr ym Mrynaman Uchaf

Pan mae unrhyw lwybr yn cael ei lwytho i Strava, mae'n dangos y llwybr fel llun.

Dywedodd Mr Driscoll, 38, eu bod wedi cael eu hysbrydoli ar ôl gweld pobl eraill yn creu lluniau trwy ddefnyddio'r ap.

"Mae'r lluniau mae pobl wedi'u creu yn eithaf syml ac roedden ni eisiau profi'n hunain," meddai.

"Be' well felly na gwneud y Ddraig Goch?"