York City 1-3 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

York City 1-3 Wrecsam
Roedd York City, o dan reolaeth cyn reolwr Wrecsam Gary Mills, yn croesawu Wrecsam a hwythau wir angen pwyntiau i osgoi disgyn o Gynghrair Genedlaethol Lloegr.
Pan aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond 70 eiliad, roedd yna gysylltiad Cymreig arall wrth i gyn ymosodwr Caerdydd a Chasnewydd, Jon Parkin, gael y gôl.
Ond er nad oedd y gêm yn bwysig i Wrecsam o safbwynt eu safle yn y gynghrair, fe wnaethon nhw ddangos tipyn o gymeriad.
Roedd yna elfen o lwc wrth i Jordan White ddod â'r sgôr yn gyfartal wedi hanner awr, gyda'r bêl yn tasgu oddi arno ac i gefn y rhwyd, ac 1-1 oedd hi ar yr egwyl.
Doedd dim lwc yn perthyn i'r gôl nesaf - White yn rhwydo eto wedi 58 munud i roi Wrecsam ar y blaen.
Roedd amser am un arall, a'r Cymro o Borthmadog Leo Smith sgoriodd y drydedd i goroni buddugoliaeth dda i Wrecsam.