Cyhoeddi enwau aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn wedi eu cyhoeddi.
Ymysg yr enwau sydd â'u gwreiddiau ym Môn mae'r hyfforddwr pêl-droed Osian Roberts, y cyflwynydd radio a theledu Nia Roberts, a'r chwaraewr rygbi rhyngwladol George North.
Mae'r anrhydeddau'n cael eu cyflwyno'n flynyddol er mwyn cydnabod unigolion ym mhob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a'u cymunedau lleol.
Ymhlith yr enwau eraill mae pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, sylfaenwyr y label recordiau 'Fflach', y brodyr Richard a Wyn Jones o Aberteifi, a'r ymgyrchydd canser o Fangor, Irfon Williams.
Mae'r canwr Geraint Jarman hefyd wedi'i dderbyn, er yng Nghaerdydd yn 2018 y bydd e'n cael ei urddo.
Bydd yr aelodau newydd eraill yn cael eu hurddo i'r Orsedd ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a bore Gwener 11 Awst.
Lliwiau'r Orsedd
Mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro/cenedl yn derbyn Y Wisg Las.
Mae'r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r celfyddydau.
Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad, neu sydd â gradd gymwys ym maes llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf, hefyd yn cael y Wisg Werdd.
Mae enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gymwys.
Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i'r Wisg Wen.
Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.
Bu farw Irfon Williams 30 Mai 2017.
Dyma restr o'r sawl fydd yn cael eu urddo i Orsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017
Gwisg Las:
Bob Daimond
Richard Crowe
Tony Davies
Ronald Dennis (wedi ei dderbyn ond wedi gohirio am flwyddyn)
David Ellis
Phyllis Ellis
Gwynfryn Evans
Robert Evans
Elwyn Hughes
Hugh Price Hughes
Hugh John Hughes
Ian Gwyn Hughes
Arwel Lloyd Jones
Geraint a Meinir Lloyd Jones
Helena Jones
Huw Ceiriog Jones
Lisa Lewis Jones
Mari Jones
Mary Jones
Michael Jones
Siân Merlys
June Moseley
Phil Mostert
Alun Mummery
George North
Jean Parri-Roberts
Donald Glyn Pritchard
Jeremy Randles
Gwerfyl Roberts
Nia Roberts
Osian Roberts
David a Ruth Roberts
Carol Sharp
Wyn Thomas
Derek Meredith Williams
Ifor Williams
Irfon Williams
Robyn Williams
Gwisg Werdd:
Linda Brown
Elonwy Davies
Pamela Davies
Siân Wyn Gibson
Iwan Guy
Geraint Jarman (wedi ei dderbyn ond wedi gohirio am flwyddyn)
Glesni Jones
Emyr a Trefor Wyn Jones
Ieuan Jones
Rhodri Jones
Richard a Wyn Jones
Elen Wyn Keen
Jeanette Massocchi
Derec Owen
Mari Rhian Owen
Wynford Ellis Owen
Huw Roberts
Rhian Roberts
Jeremy Turner
Anwen Williams