Cyfuno rhedeg a gweithredoedd da yn y gymuned

Mae gweithgaredd sy'n cyplysu dod yn heini a gwneud gweithredoedd da yn cychwyn yng Nghaerdydd.
Nos fawrth bydd cyfle i redeg a gwella llwybr i bobl anabl o flaen neuadd gymunedol Treganna.
Dyma'r tro cyntaf i weithgareddau o'r fath gael eu cynnal yng Nghymru.
Bydd y criw yn cyfarfod o flaen yr Hen Lyfrgell.
Ymateb cadarnhaol
Mae aelodau o'r GoodGym yn ymweld â phobl hŷn, garddio ac yn gwneud rhywfaint o waith adeiladu.
Eisoes mae 320 o bobl wedi dweud eu bod eisiau ymuno â'r grŵp yn y brifddinas.
"Ry'n wedi ein synnu," medd Ben Annear, gweithiwr iechyd a hyfforddwr yn Goodgym.
Yn ogystal mae ysgolion ac elusennau wedi awgrymu tasgiau.
"Os ydych yn defnyddio eich ymarfer corff i wneud rhywbeth da, mae hynny yn eich gwneud i deimlo'n well byth," ychwanegodd Ben.
Dywedodd hefyd nad oedd yn rhaid i redwyr boeni y byddent yn cael eu gadael ar ôl ac felly does dim rhaid i bobl bryderu am eu cyflymder neu am lefel eu ffitrwydd.
Bydd pobl hefyd yn cael gwybod pa mor bell yw'r daith cyn cychwyn.
Ar draws y DU mae rhedwyr GoodGym wedi cyflawni mwy na 50,000 o weithredoedd da drwy helpu pobl hŷn a sefydliadau cymunedol.
Maent ar hyn o bryd yn gweithredu mewn 31 o ardaloedd a'r bwriad yw lansio clwb ymhob dinas yn y DU erbyn 2018.