Olew Palmwydd: Pris drud am olew rhad?

Mari Huws Image copyright Mari Huws

Daeth cyhoeddiad Ddydd Mawrth 10 Ebrill gan archfarchnad Iceland ei fod am roi'r gorau i ddefnyddio olew palmwydd ('palm oil') yn eu cynnyrch erbyn diwedd 2018.

Y cwmni o Lannau Dyfrdwy yw'r archfarchnad mawr cyntaf yn y DU i waredu'r olew o'u cynnyrch, a hynny am resymau amgylcheddol.

Un fydd yn hapus iawn â'r penderfyniad yma yw Mari Huws o Benygroes ger Caernarfon. Treuliodd hi bron i chwe wythnos yn Indonesia er mwyn gwneud ffilm ddogfen ar effaith y diwydiant olew palmwydd ar fywyd gwyllt, cymunedau a'r amgylchedd yno:


Drwy ffotograffiaeth, ffilm a geiriau, dwi'n gobeithio dod â'r stori nôl i Gymru am fyd sy'n prysur ddiflannu.

Yn 2015, cafodd coedwig law maint Cymru ei losgi mewn cwpl o fisoedd ar ôl i dannau erchyll ruo drwy de Sumatra.

Dyma, heb os, oedd un o drychinebau amgylcheddol gwaethaf y ddegawd, yn rhyddhau miliynau o dunelli o garbon i'r byd ac yn mygu'r cymunedau.

Cafodd 100,000 o bobl eu lladd, a does yna ddim cofnod o faint o anifeiliaid gafodd eu difa.

Prin g'neud newyddion 10 'nath y trychineb yma, a dyna pryd nes i ddechrau gofyn cwestiynau.

Image copyright Mari Huws
Image caption Darma a'i fab. Sefydlydd y fenter 'Nature for Change', sydd yn gweithio i amddiffyn y goedwig law a bywyd gwyllt drwy addysgu a chefnogi'r ffermwyr lleol a'r teuluoedd sy'n byw yn y 'buffer zone' yn Timbang Lawan, Sumatra

O'n i'n gweld o'n reit sinistr i ddechrau bod 'na gynhwysyn - sy'n g'neud gymaint o ddifrod i'r byd, i'r bobl a'r bywyd gwyllt - yn cuddio mewn cynnyrch yn ein harchfarchnadoedd ni a bod neb callach am y peth.

Nes i ddysgu wedyn am faint o elw mae'r olew rhad yn g'neud i gwmnïa' mawr a do'n i ddim yn gweld o mor sinistr - jest fel llaw goch cyfalafiaeth.

Ond y peth 'naeth wir ysgogi fi i fynd ar ôl y pwnc go iawn oedd erthygl am ymdrechion Rainforest Foundation Norway i leihau defnydd y wlad o olew palmwydd yn 2011.

Drwy ledu'r ffeithiau am y diwydiant ar lawr gwlad, 'nath yr ymgyrch leihau defnydd Norwy o'r olew 60% mewn blwyddyn. Felly ma' hi'n bosib g'neud gwahaniaeth!

Image copyright Mari Huws
Image caption Hani, fy ngeid i fyny'r afon Sakonyar, Borneo. Afon sydd yn rhedeg fel ffin efo'r Parc Cenedlaethol ar un ochr a phlanhigfeydd ar y llall

Dwi'n credu'n gryf mewn grym celf i 'neud gwahaniaeth ar lawr gwlad ac i ddechrau symudiad o'r llawr fyny yn lle derbyn y sefyllfa o'r top lawr.

Dwi'n gobeithio y bydd y prosiect yma'n ysbrydoli pobl i feddwl am o le ma' petha'n dod, a sgil effaith y diwydiant olew palmwydd ar gymuneda', bywyd gwyllt a'r amgylchedd.

Image copyright Mari Huws
Image caption Plant yn chwara' mewn 'paddie' reis sydd newydd gael ei gynhaea' yng ngogledd Sumatra

Ma'r pŵer yn ein pocedi ni i beidio bwydo cyfalafiaeth, system sy'n ffafrio elw a chynnydd economaidd tymor byr dros gynaliadwyedd, hawliau dynol a dyfodol y blaned.

Drwy ddogfennu cip o be' sy'n mynd 'mlaen yma ar ffilm, drwy ffotograffiaeth ac mewn blog, ella y medra i chwara' rhan fach yn y newid sydd angen digwydd i achub be' sy'n weddill o'r goedwig law ac i'r cymunedau sydd yn byw wrth ei hymyl gadw ei hurddas a'i hincwm fel ffermwyr reis, llysiau a ffrwythau.


Image copyright Mari Huws

Afon Sakonyar, Canolbarth Kalimantan. Afon sydd wedi ei wneud i gyd o ddŵr glaw, ac yn nodweddiadol gan fod y dŵr yn ddu oherwydd y tir mawnog (peat).

Yr enw gwreiddiol oedd 'Suangai Buaya', afon y crocodeil - cyn i'r Iseldirwyr, a oedd yn coloneiddio Indonesia tan yr Ail Ryfel Byd, ei hail-enwi.


Image copyright Mari Huws

Jonni, Armen ac Armir - geids i fi yng nghoedwig law Gunung Leuser am bedwar diwrnod a thair noson. Y tri yn adnabod y goedwig fel cefn eu llaw.


Image copyright Mari Huws

Ffermio traddodiadol ar ffin y Parc Cenedlaethol yn Bukit Lawan, Sumatra

Pynciau Cysylltiedig