Arolwg: Pobl yn fodlon â gwasanaethau cyhoeddus

Mae pobl yng Nghymru yn hapus, ar y cyfan, â'u gwasanaethau cyhoeddus, yn ôl arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r arolwg yn awgrymu bod 90% yn hapus â'u meddyg teulu a 91% yn fodlon gyda'u hapwyntiad mwyaf diweddar gyda'r GIG.
Roedd amrywiaeth mawr mewn agweddau tuag at wasanaethau cyngor.
Ym Mlaenau Gwent, dim ond 24% o oedolion oedd yn cytuno bod eu cyngor sir yn darparu gwasanaethau o safon uchel.
Conwy gafodd y sgôr uchaf, lle dywedodd 61% bod gwasanaethau o safon uchel. Daeth Ceredigion yn ail gyda 58%, ac yna Caerdydd gyda 57%.
Sgoriau isel
Yn ogystal â Blaenau Gwent roedd gan Ynys Môn (34%) Powys (35%) a Merthyr Tudful (38%) sgoriau cymharol isel.
O ran gwasanaethau iechyd dywedodd 87% o'r rhai o holwyd eu bod yn fodlon gyda'r gwasanaeth ambiwlans, ond roedd hynny wedi disgyn 3% ers 2014-15.
Roedd 70% yn dweud bod eu gwasanaethau gofal lleol yn dda neu'n ardderchog.
Cafodd 10,493 o oedolion eu holi rhwng Mawrth 30 a Mawrth 31 2016 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru.